Adeilad y Flwyddyn 2004(2)

 

Cyd Enillydd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy :  Hen Ysgol Cenedlaethol Sant Sior, Llandudno

Dynodwyd yr hen ysgol wladol St. George fel un o'r adeiladau cynharaf yn Llandudno.  Mae'r ysgol wedi bod ar y safle blaenllaw 'Church Walks' ers i dy'r Prifathro ac adeilad gwreiddiol yr Ysgol gael eu hadeiladu yn 1846.
Yn dilyn archwiliadau pellach darganfuwyd bod estyniadau wedi'u gwneud i'r adeilad gwreiddiol tua 1853, ac eto yn 1889, gydag un estyniad pellach ar ddechrau'r 20fed ganrif.
Mae'r adeilad yn cynnwys llety un llawr syml yn bennaf er mae'r rhan fwyaf o'r gwagleoedd mewn ffurf ddeulawr.  Dim ond ty gwreiddiol y meistr sy'n cynnwys llety llawr cyntaf, a chyrhaeddir y man hwn ar hyd grisiau o binwydden byg sydd wedi'i leoli'n ganolog. 
Mae'r adeilad o waith maen traddodiadol gyda thrawslathau pren traddodiadol/trawstiau pren yn y to.
Roedd y prosiect yn cynnwys adfer Adeilad Rhestredig II Hen Ysgol Wladol St George, a'i drawsnewid i'w defnyddio fel Canolfan Addysg Blynyddoedd Cynnar.
Tuag at ddiwedd yr 20fed ganrif dirywiodd yr ysgol yn raddol yn adfail, ac ar ôl adeiladu Ysgol Newydd St George yn y 90au dirywiodd yr hen ysgol nes ei bod yn adfail llwyr. 
Er cafwyd cynigion i ddymchwel yr ysgol, sicrhawyd ei dyfodol gan brosiect adnewyddu a thrawsnewid yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Glanmor Llandudno a Chyngor Bwrdeistref Conwy.

To top

Nod y prosiect oedd trawsnewid yr adeilad ysgol segur gwag yn Ganolfan Addysg Blynyddoedd Cynnar a fyddai'n cynnwys meithrinfa, llyfrgell degannau a chyfleusterau adnoddau, a chwrdd â'r angen am gyfleusterau atodol modern.
Bu'r gwaith adnewyddu a thrawsnewid hen ysgol wladol St George yn cynnwys gwaith adfer systematig o nodweddion gwreiddiol yr adeilad, gan gynnwys amgylchynau ffenestri tywodfaen, copinau a mannau penglinio; ailgyflwyno ffenestri plwm ac ailadeiladu'r dau simnai a oedd wedi gwasanaethu'r ystafell ddosbarth gwreiddiol, ac a chafwyd eu dymchwel rhywbryd yn ystod canol yr 20fed Ganrif. 
Hefyd, roedd y gwaith am wneud yn iawn am ddiffygion a gwaith amhriodol a oedd wedi'i wneud yn ystod oes yr adeilad, gan gynnwys y defnydd o rendrau sement amhriodol i waith maen a ffenestri haearn yn y ffasadau maen gwreiddiol yn y 60au.
Gwnaed gwaith ychwanegol i osod lloriau newydd oedd wedi pydru, ffenestri pren lleol, a trawstiau pren oedd wedi pydru.  Dymchwelwyd newidiadau ac addasiadau blaenorol amhriodol, gan gynnwys bloc toiledau gyda tho gwastad o'r 60au ac estyniad pen-ty gyda chladin metel.  Trwy ddymchwel yr adeiladau hyn roedd hi'n bosibl ailgreu'r buarth gwreiddiol a chreu maes chwarae diogel amgaeedig ar gyfer y meithrinfa.  Gwnaed gwaith adfer i bortsh ty'r prifathro gan dynnu'r to metel proffil presennol a gosod to llenfetel newydd.  Gosodwyd paneli pren newydd yn lle'r paneli pren gwreiddiol ar y portsh wedi'u ailgreu o ddeimensiynau a gafwyd o'r darnau oedd yn parhau ar y safle, i adlewyrchu'r paneli gwreiddiol yn gywir. 
Yn ystod y gwaith dymchwelwyd nenfydau grog i alluogi gwaith i adfer a dangos y toeon pren gwreiddiol, yn enwedig o fewn y prif Ystafell Ddosbarth 
Gwnaed gwaith adfer cyflawn ar y sgrin pren rhannol gwydrog gwreiddiol oedd wedi rhannu'r ystafell ddosbarth yn wreiddiol, gan rannu'r merched a'r bechgyn oedd yn ddisgyblion.  Tynnwyd y paneli pren gwreiddiol oddi ar y waliau, ac fe'u stripiwyd o baent modern a'u hailosod. 
Adferwyd yr awyryddion oedd wedi'u cuddio a gosodwyd pwyntiau trydanol modern a pwyntiau ar gyfer cyfrifiaduron.
Ailadeiladwyd y simnai allanol ar gyfer y rhan hon mewn carreg wedi'i ailgreu yn seiliedig ar wybodaeth a gafwyd gan Archifau ac o luniau a baratowyd gan y Pensaer yn dangos maint a siap pob rhan o'r simnai.
Mae system gwresogi modern a gwaith trydan hollol newydd yn sicrhau bod yr adeilad yn darparu lefel da iawn o wres yn ogystal a'r cyfleusterau a ddisgwylir mewn adeilad ar gyfer defnydd modern.
Mae gwres o dan y llawr yn y prif ystafelloedd yn sicrhau bod y system wresogi mor anweladwy a phosibl ac mae'n osgoi tynnu sylw o gymeriad gwreiddiol yr ystafelloedd mewnol.
Roedd yr angen am gyfleusterau modern digonol ynghyd a'r angen i ddarparu cyfleusterau lleol a phenodedig ar gyfer gwahanol bethau o fewn yr adeilad wedi arwain at adeiladu estyniad newydd ar gyfer toiledau i ddynion, merched a phobl anabl.
Cynlluniwyd yr estyniad newydd hwn i gydfynd a'r adeilad gwreiddiol ac fe'i adeiladwyd gan ddefnyddio cerrig wedi'u arbed o greu mynedfa i'r maes parcio newydd o wal wreiddiol iard yr ysgol.

To top

Ailgrewyd cerrig copa yn seiliedig ar y cerrig copa sydd ar y brif fynedfa i dy'r ysgol feistr.
Trawsnewidwyd yr estyniad a adeiladwyd yn hwyrach yn yr ugeinfed ganrif yn gegin a man lluniaeth sy'n gweini'r Meithrinfa a'r cyfleusterau cymorth atodol yn yr adeilad.
Mae'r gegin wedi'i ddylunio i gydfynd â'r adeilad gwreiddiol gyda chynllun y gegin yn cuddio peiriannau modern cyn belled â phosibl.
Mae addurn y gegin a'r adeilad cyfan yn seiliedig ar liwiau Fictoraidd, sy'n gweddu'r gwaith pren, llefydd tan tywodfaen a ffenestri plwm. Cadwyd y bloc toiledau gwreiddiol sy'n gwasanaethu'r prif ystafelloedd dosbarth, a gosodwyd cyfleusterau newydd, ynghyd â thoiledau ar gyfer y babanod, gyda chawodydd a chyfleusterau i bobl anabl wedi'u gosod yn rhan wreiddiol i wasanaethu'r meithrinfa newydd.
Cadwyd ac adnewyddwyd y grisiau a'r balwstradau gwreiddiol i'r llawr cyntaf ac mae'r ystafelloedd llawr cyntaf wedi'u trawsnewid yn swyddfeydd i'r staff rheoli sy'n rhedeg y ganolfan. 
Mae'r gwaith cerrig allanol wedi'i ailbwyntio gyda morter calch, a thynnwyd y render sement anaddas a allai fod wedi achosi difrod i ffwrdd o'r mannau eraill a rhoddwyd render calch addas yn ei le.
Tynnwyd y plaster i ffwrdd yn gyfan gwbl a'r asbestos oedd mewn mannau.  Ail blastrwyd y waliau gyda phlaster calch newydd a phaentiwyd y waliau i orffen. 

To top

Cadwyd ac adnewyddwyd nifer o'r drysau mewnol y credir i fod yn rhai gwreiddiol. 
Gosodwyd drysau newydd lle'r oedd angen a chafodd y lleill eu gwneud i gydweddu a'r rhai gwreiddiol sydd wedi'u cadw. 
Ystyriwyd mannau allanol yn ofalus hefyd, gyda gwaith tirlunio caled a meddal wedi'i gynllunio i gydfynd â'r adeilad a lle yn yr awyr agored sy'n addas i'w ddefnyddio gan blant. 
Ceir hefyd mannau eistedd allanol a mannau chwarae caeedig gydag arwynebau chwarae diogel. 
Crewyd maes parcio ar ran o iard wreiddiol yr ysgol tu cefn i'r adeilad gyda ramp newydd i bobl anabl sy'n rhoi mynediad i'r adeilad o'r maes parcio. 
Mae mynediad i bobl anabl hefyd ar gael ar hyd ramp newydd oddi ar Church Walks.
Ystyrir y prosiect i fod yn enghraifft dda o'r hyn y gellir ei gyflawni pan mae yna awydd i gadw adeiladau presennol tra ar yr un pryd cwrdd ag anghneion adeilad modern.
Hefyd mae ei rol newydd fel Canolfan Dysgu Blynyddoedd Cynnar wedi sicrhau bod ei ddefnydd addysgol gwreiddiol yn cael ei gynnal i'r dyfodol. 

To top

Enw'r Awdurdod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Gwerth y Cytundeb £680,202.84
Dyddiad y Safon Gorffenedig Ymarferol 9 Gorffennaf 2003
Architect Practice Pritchard Bond Architects
Pensaer y Prosiect Steve Bond RIBA
Peiriannwyr Strwythurol Shepherd Gilmour Consulting Engineers
Cyswllt Geraint Owen
Prif Contractwr Messrs Peter T. Griffiths
Cleient Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Adran Addysg)
(Menter ar y Cyd) Seaside Buildings Preservation Trust

To top