Llywodraeth, UE a chanllawiau eraill
Nod Awdurdodau Lleol yng Nghymru yw gweithredu a datblygu eu polisiau Rheoli Ynni o fewn fframwaith deddfwriaethol cyfredol y DG a'r UE.
Corff annibynnol yw'r Pwyllgor ar Newid yn yr Hinsawdd (Committee on Climate Change- CCC) a sefydlwyd o dan y Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd i gynghori Llywodraeth y DG ar osod cyllidebau carbon, ac adrodd i'r Senedd ar y cynnydd a wnaed i leihau allyriadau nwyon ty gwydr.
Daeth Cyfarwyddyd Ewropeaidd ar Ynni a Pherfformiad Adeiladau (EPBD) i rym yn y DG ym mis Ionawr 2006, ac mae gan hyn goblygiadau busnesau mawr ar gyfer perchnogion, gweithredwyr, cynllunwyr a ddatblygwyr adeiladau newydd ac adeiladau presennol. Cliciwch ar y ddolen isod ar gyfer y cyfarwyddyd :
Cyfarwyddyd Ewropeaidd ar Ynni a Pherfformiad Adeiladau
Cynllun gwirfoddol wedi'i gynllunio gan arbenigwyr ynni o 20 tref a dinas Ewropeaidd yw'r Ymgyrch Arddangos Ewropeaidd - The European Display™Campaign. Mae wedi'i anelu at annog awdurdodau lleol i arddangos perfformiadau ynni ac amgylcheddol eu hadeiladau cyhoeddus gan ddefnyddio'r un label ynni a ddefnyddir ar gyfer cyfarpar yn y cartref. Cliciwch ar y ddolen isod am gymorth pellach;
Ymgyrch Arddangos Ewropeaidd - The European Display™Campaign





