Amcanion a Manteision CLAW

Amcanion CLAW

  • Hybu a chefnogi cydweithio rhwng awdurdodau sy'n aelodau a sefydliadau eraill.

  • Hybu rhagoriaeth yn y gwaith o reoli asedau, cyflawni prosiectau a darparu gwasanaethau eiddo o fewn llywodraeth leol Cymru.

  • Cefnogi awdurdodau sy'n aelodau trwy ddarparu hyfforddiant, rhannu arfer da, cynhyrchu dogfennau safonol a chomisiynu gwaith ymchwil.

  • Cynrychioli diddordebau awdurdodau sy'n aelodau trwy sefydlu cysylltiadau gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a sefydliadau eraill.

  • Gwneud trefniadau trwy'r consortiwm ar gyfer prynu nwyddau a gwasanaethau adeiladu.

To top

Manteision

  • Arbed costau ac amser staff trwy brynu cydrannau o safon sydd wedi cael eu hasesu'n dechnegol;

  • Fforwm i gyfnewid syniadau, trafod problemau a chynnig atebion, ac i drafod deddfwriaeth newydd a phynciau'r dydd.  Gwneir hyn trwy gyfrwng gweithgorau sy'n cynrychioli gwahanol broffesiynau a gwasanaethau llywodraeth leol;

  • Ymchwil ganolog ar faterion eiddo;

  • Manylion a manylebau adeiladu safonol;

  • Arddangosfeydd, cynadleddau a hyfforddiant ar faterion eiddo, cydrannau a deddfwriaeth;

  • Uno i bwyso ar y llywodraeth ganolog ac eraill mewn perthynas â materion eiddo.

  • Paratoi canllawiau ar reoli asedau, rheoli perfformiad, materion cynaladwyedd a chynlluniau ac adeiladu arloesol.

"Gallwn eich helpu chi i ddod o hyd i atebion gwell"

 

Seminarau a Chyflwyniadau

Cyflwyniad a wnaed gan CLAW yng Nghyfarfod Fforwm Sector Cyhoeddus Gogledd Cymru ar 30 Mehefin 2009 a drefnwyd gan 'Constructing Excellence Wales'.

Cyflwyniadau a wnaed gan CLAW a Gwerth Cymru yng Nghyfarfod Fforwm Sector Cyhoeddus De Cymru ar 2 Gorffennaf 2009 a drefnwyd gan  'Constructing Excellence Wales'.