yw Consortiwm Awdurdodau Lleol Cymru sy'n cefnogi buddiannau proffesiynol a thechnegol rheoli eiddo o fewn llywodraeth leol yng Nghymru. Ffurfiwyd CLAW yn 1962, a bellach mae'n gweithio gyda chynrychiolwyr o blith aelodau etholedig a swyddogion holl awdurdodau lleol Cymru, ynghyd â nifer o sefydliadau sy'n aelodau cysylltiol er mwyn hybu rhagoriaeth wrth reoli asedau eiddo.
Partneriaethau
Mae gan CLAW drefniadau partner â nifer o sefydliadau, gan gynnwys: Centre for Research in the Built Environment (CRiBE), o fewn Ysgol Bensaerniaeth Cymru Prifysgol Caerdydd. Mae'r ganolfan hon yn cael ei chydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol am wasanaethau ymchwil ac ymgynghori ym maes dylunio amgylcheddol a defnydd adeiladau a'r amgylchedd adeiledig o egni.
Mae'r Carbon Trust, Cymru yn gwmni annibynnol a noddir gan y Llywodraeth. Ei rôl yw helpu'r DG symud i economi carbon isel trwy helpu busnesau a'r sector cyhoeddus leihau'r carbon sy'n cael ei ryddhau nawr, a mynd i'r afael â chyfleoedd masnachol technolegau carbon isel.