Cyd-Enillydd Gwobr Cynaliadwyedd 2011 (2)
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Ysgol Gymunedol Newydd Ynysowen
Disgrifiad o'r prosiectMae Ysgol Gynradd Gymunedol Ynysowen yn Aberfan, ger Merthyr Tudful wedi'i lleoli ger yr afon Taf ar waelod y dyffryn. Mae'r ysgol wedi'i lleoli yn erbyn cefndir trawiadol o goed a bryniau. Mae'r adeilad yn darparu cyfleusterau ar gyfer 300 o fyfyrwyr, 40 o leoedd meithrin a gweithgareddau cymunedol amrywiol dan un to. Crewyd yr ysgol gan ddefnyddio egwyddorion dylunio ac adeiladu cynaliadwy, sy'n golygu bod lleoliad y safle, deunyddiau naturiol, golau dydd a system awyru naturiol i gyd yn rhan annatod o'r dyluniad. Yr Adeilad fel Arf Addysgu a DysguTrwy'r adeilad i gyd, mae'r dull y cafodd yr ysgol ei hadeiladu a sut mae'n gweithredu fel adeilad o ddydd i ddydd yn cael eu defnyddio fel arf addysgol ar gyfer y myfyrwyr. Mae'r strwythur sy'n bren wedi'i lamineiddio â glud (glulam) yn dangos sut mae'r adeilad yn sefyll lan, tra bod gwasanaethau'r adeilad â lliw arbennig wedi'u rhoi arnynt fel bod y plant yn gallu gweld y gwahanol beipiau a systemau a deall sut mae'r adeilad yn cael ei redeg. Yn y cyntedd mae pibell dwr clir, fel bod y disgyblion yn gallu gweld a monitro faint o ddwr sy'n mynd i mewn i'r tanc storio. Wrth ei ochor mae sgrin yn dangos faint o ynni a dwr mae'r ysgol yn ei defnyddio (ac arbed) gan dynnu sylw at y cysylltiadau rhwng yr adeilad a'r amgylchedd.
|
Dysgu drwy'r DirweddMae dyluniad y dirwedd ar gyfer yr ysgol yn parhau â themâu adeilad yr ysgol, gan ymestyn y dosbarth tu allan, gyda man ar gyfer dosbarth awyr agored. Mae'r nodweddion addysgol o fewn y dirwedd yn cynnwys pwll ar gyfer trochi rhwydi ac ardal goetiroedd, lle gall y plant ddysgu am natur a bywyd gwyllt. Mae'r dirwedd yn cydfynd â dyluniad yr adeilad a'r amgylchedd naturiol o'i amgylch trwy gyflwyno amrywiaeth o goed a llwyni brodorol ar y safle sy'n rhoi cynefinoedd naturiol newydd. Cymerodd y tim dylunio camau i amddiffyn ecoleg yr ardal, gan gynnwys diogelu llwybr hedfan ystlumod a darparu blychau i ystlumod fel rhan o'r cynllun. |
Golau ac Awyru NaturiolMae'r adeilad wedi'i lleoli i ganiatau'r dosbarthiadau i gael golau gogleddol cyson ym mhob un o'r mannau dysgu. Pan fydd y golau naturiol yn isel, mae'r goleuadau artiffisial yn cydweddu â'r golau dydd naturiol i roi lefel cyson o olau. Gyda synwyryddion golau ym mhob ystafell ni fydd y lefelau golau byth yn rhy uchel nac yn rhy isel. Mae'r ysgol yn cael ei hawyru'n naturiol sy'n gwella amgylchedd mewnol yr ysgol i greu'r amgylchedd ddysgu gorau. Mae system rheoli'r adeilad yn cynnwys synwyryddion sy'n monitro lefelau tymheredd a charbon deuocsid pob dosbarth unigol. Mae'r system reoli hefyd yn rheoli'r ffenestri awtomatig i sicrhau bod y lefel cywir o awyru yn cael ei roi. Deunyddiau a GwresogiDewiswyd y deunyddiau a ddefnyddiwyd i adeiladu'r adeilad am eu perfformiad a'u gwydnwch trwy gydol eu hoes yn ogystal â'u rhinweddau esthetig a chynaliadwy. Mae hyn yn cael ei ddangos yn ffrâm yr adeilad, ei strwythur a chladin sy'n defnyddio pren o ffynhonnell gynaliadwy. Er mwyn lleihau'r defnydd o ynni gan yr ysgol dros ei hoes mae yna lefelau uchel o insiwleiddio yn y waliau, to a'r llawr, sydd wedi'i ddylunio fel bod angen llai o wres. Mae'r rhan fwyaf o wres yr ysgol yn cael ei ddarparu gan system o 14 o ddyfrdyllau, bob un yn 100m o ddyfnder yn y ddaear sy'n trosglwyddo gwres cyson o'r ddaear i wresogi'r adeilad, gan leihau'r defnydd o ynni hyd yn oed yn fwy. Defnyddir adnoddau'r ddaear hefyd i wresogi'r dwr poeth ar gyfer yr ysgol, gyda 10 panel solar dwr poeth ar y to sy'n wynebu'r de. Mae'r dwr glaw o'r to yn cael ei gasglu a'i storio ac yn cael ei ailddefnyddio er mwyn fflysio holl doiledau'r ysgol, gan arbed llawer o ddwr ffres bob blwyddyn. |
| Manylion y prosiect | |
| Enw'r cleient | Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful |
| Gwerth y contract | £ 5,638,854.67 |
| Rheolwr y Prosiect | Track Consulting. |
| Pensaer | White Design Associates Limited |
| Syrfewr Meintiau | Lee Wakemans Limited |
| Peiriannydd Mecanyddol | Silcock Dawson |
| Peiriannydd Trydanol | Silcock Dawson |
| Peiriannydd Strwythurol | Integral Engineering Design |
| Clerc y Gwaith | Track Consulting |
| Goruchwyliwr Cynllunio | White Young Green |
| Prif Gontractwr | Morgan Sindall Limited |




