Enillydd Adeilad y Flwyddyn 2011
Cyngor Sir Gaerfyrddin
Marchnad Nwyddau Caerfyrddin
Disgrifiad o'r Prosiect
Marchnad Nwyddau Caerfyrddin yw uchafbwynt datblygiad Rhodfa'r Santes Catrin sydd wedi elwa ardal sylweddol o Orllewin Cymru, gan ddenu diddordeb ac edmygedd o'r gymuned leol ac ymwelwyr. Gellir crynhoi'r adborth cyffredinol am yr adeilad newydd trwy'r dyfyniad yma o'r wefan i dwristiaid 'Trip Adviser': 'Mae'r adeilad newydd yn wych - yn olau ac agored ac yn fan gwych i arddangos cynnyrch lleol godidog Caerfyrddin'.
Yn y fan yma ceir neuadd farchnad newydd, siopau allanol a man agored cyhoeddus o amgylch y twr cloc. Mae'r datblygiad wedi goresgyn heriau sylweddol o ran y safle, y gymuned leol a logisteg i greu adeilad cyfoes ac eithriadol. Mae cynllun unigryw Rio Architect yn atgyfnerthu pwysigrwydd y twr cloc hanesyddol ac yn creu canolbwynt i ddatblygiad £66 miliwn Rhodfa'r Santes Catrin a chanol tref Caerfyrddin ei hunan.
Agorwyd yn 2010 gan Ei Mawrhydi y Dywysoges Frenhinol, mae Marchnad Nwyddau Caerfyrddin yn enillydd teilwng iawn o Wobr CLAW 2011.
Amgylchedd yr Adeilad
Roedd adborth gan denantiaid neuadd y farchnad yn awgrymu bod y neuadd farchnad flaenorol yn dueddol o or-gynhesu yn ystod misoedd poeth yr haf a'i bod yn oer iawn yn y gaeaf. Ymateb Rio Architect i hyn oedd sicrhau nad oedd yr haul yn or-gynhesu'r adeilad tra ar yr un pryd creu adeilad oedd yn cadw'r gwres i mewn yn effeithiol a'i awyru'n naturiol a thrwy hynny rheoli tymheredd yr adeilad. Mae lleoliad yr adeilad yn defnyddio golau dydd o'r ochr sy'n wynebu'r gogledd ac sydd felly'n lleihau'r defnydd o oleuadau. Defnyddiwyd tywodfaen pennant glas Cymreig lleol ar yr adeilad.
Asesiad o'r Adeilad
Arwynebedd Gros y Llawr Mewnol: 2059 m2 (22,163 ft2) Ardal y Llawr wedi'i Drin: 1421m2
Defnydd ynni/CO2 blynyddol ar gyfer maint yr adeilad a gwresogi dwr. 92938kWhrs(x0.19kgCO2/kWhr): 12.69kgCO2/m2
Defnydd ynni/CO2 ar gyfer defnydd trydan 79314kWhrs(x0.43kg/kWhr): 23.55kgCO2/m2 CO2 allyriadau/m2 ardal y llawr wedi'i drin: 36.24 kgCO2/m2
Meddalwedd cyfrifo: Dynamic Simulation Software TAS
System gwerthuso meincnod: Cyfrifo Rhan L gan ddefnyddio TAS DSM V9.09
Enw'r Peiriannydd: Gary Westwell
| Manylion Cyswllt | |
|---|---|
| Enw'r cleient | Cyngor Sir Gaerfyrddin / Simons Developments |
| Gwerth y Contract | Oddeutu £4 miliwn |
| Rheolwr y Prosiect | EC Harris |
| Pensaer | Rio Architects |
| Syrfewr Meintiau | EC Harris |
| Peiriannydd Mecanyddol | Kelly Taylor and Associates |
| Peiriannydd Trydanol | Kelly Taylor and Associates |
| Peiriannydd Strwythurol | AKS Ward |
| Goruchwyliwr Cynllunio | EC Harris |
| Prif Gontractwr | Simons Construction |





