Enillydd Gwobr Cynaliadwyedd 2010
Cyngor Sir Ceredigion
Swyddfeydd Canolfan Rheidol a Chanolfan Ynni Carbon Niwtral, Aberystwyth
Disgrifiad o'r ProsiectDatblygwyd y prosiect fel rhan o bolisi ad-drefnu Portffolio Asedau Eiddo Cyngor Sir Ceredigion a darparu gwell mynediad at wasanaethau a gwybodaeth ar gyfer y Sir. Mae'r adeilad yn 7,273 metr sgwar (gros) gyda lle i hyd at 475 o aelodau o staff mewn swyddfa sydd mewn cynllun agored yn bennaf. |
Cafodd cynllun yr adeilad ei ddatblygu gyda'r amgylchedd fel ystyriaeth flaenllaw ac mae'n darparu dwy adain modd cymysg sydd wedi'u lleoli bob ochr i'r atriwm canolog uchder llawn. Mae'r ffram dur yn cynnal soffitiau concrit gwastad y gellir eu gweld ac sy'n darparu rheolaeth amgylcheddol oddefol, gyda'r deunyddiau cladin wedi'u dewis i ymateb i ofynion rhanbarthol a chynaliadwy.
Briff y Cleient: Roedd briff y cleient ar gyfer y prosiect yn cynnwys y dyheadau a gofynion canlynol :
|
Cyfyngiadau Cynllunio: Roedd angen y safle mynedfa hwn er mwyn cynnwys coridor o dirwedd ac er mwyn ystyried cyd-destun yr adeiladau domestig dau a thri llawr oedd yn bodoli eisoes i'r de ac i'r dwyrain, yn ogystal a'r effaith gweledol o bellter.
Deunyddiau a'r Dull Adeiladu: Roedd ffurf yr adeilad a'r deunyddiau adeiladu wedi'u dylanwadu gan bwyslais cryf ar yr amgylchedd er mwyn sicrhau bod y rheolaeth amgylcheddol oddefol uchaf yn cael ei gyflawni. Mae'r ffrâm dur yn cynnal unedau llawr concrit gwastad sydd i'w gweld uwchben rafftiau acwstig/goleuadau crog. Mae adain y gogledd ac adain y de wedi'u cynllunio gyda dyfnder fel eu bod yn cael eu hawyru'n naturiol yn ogystal â thrwy'r atriwm canolog uchder llawn, gyda'r aer yn mynd allan trwy ffenestri louvre sy'n cael eu rheoli gan BMS ar uchder uchel. Mae'r ffurf syml a hyderus wedi'i dehongli trwy'r defnydd o brise soleil ynghyd â chladin sinc a theracota. |
Effeithlonrwydd Ynni a Lleihau Allyriadau Carbon: Y prif ystyriaethau dylunio amgylcheddol oedd:
|
Materion Cynaliadwyedd Ehangach: Mae cynllun yr adeilad hefyd yn mynd i'r afael â materion cynaliadwy ehangach megis:
|
Cynnal a Chadw a Rheoli: Trwy gydol y broes o ddatblygu'r cynllun, cynhaliwyd trafodaeth helaeth gyda'r Grwpiau Cleient er mwyn sicrhau y byddai'r adeilad yn cael ei redeg mewn dull oedd yn hawdd ei ddefnyddio. |
Ardystiad BREEAM: Llwyddodd yr adeilad i gael Graddfa Ragorol BREEAM gyda sgor o 73.7%. Enillodd yr adeilad hefyd Gwobr BREEAM Cymru 2010.
Effeithiolrwydd fel Gweithle: Mae gweithlu oedd yn flaenorol mewn gwahanol leoliadau wedi gallu dod at ei gilydd ac felly wedi arbed costau a chreu cysylltiadau rhwng y chwe adran gwasanaeth unigol sydd erbyn hyn yn gweithio yn yr adeilad. Llwyddwyd i wneud hyn trwy greu gweithle ar y cyd yn hytrach nag ar wahan. Mae staff yn dod at ei gilydd yn naturiol mewn amgylchedd cynllun agored. Mae'r shifft ddiwyllianol oddi wrth ffyrdd traddodiadol o weithio o fewn llywodraeth leol wedi galluogi'r Cyngor i fanteisio'n llawn ar ddatblygiadau TGCh a lleihau'r galw am fannau storio, argraffwyr a llungopiwyr.
Ers symud i'r adeilad newydd ym mis Medi 2009 crewyd cwlwm unigryw rhwng y staff a'r adeilad. Mae'r atriwm canolog uchder llawn, 'stryd fertigol', yn gwneud y mwyaf o olau dydd ac aer naturiol. Mae hefyd yn rhoi golygfa i'r staff ac yn pwysleisio'r pontydd sy'n creu cysylltiadau ffisegol pwysig ac yn atgyfnerthu darparu gwasanaethau ar y cyd.
Y Swyddfa Hygyrch: Mae'r adeilad wedi cael ei gynllunio i ganiatau mynediad rhydd a hawdd i ymwelwyr a staff. Mae'r dderbynfa gyhoeddus yn cynnwys cyfleuster toiled 'Changing Places', un o ddim ond 8 yng Nghymru.
| Manylion y Cytundeb | |
| Cleient | Cyngor Sir Ceredigion |
| Gwerth y Cytundeb | £16.5M (yn cynnwys y Ganolfan Ynni) |
| Dyddiad Ymarferol Cwblhau'r Gwaith | Gorffennaf 2009 |
| Rheolwr Prosiect | Cyngor Sir Ceredigion |
| Pensaer | Powell Dobson, Caerdydd / Cyngor Sir Ceredigion |
| Syrfewr Meintiau | Cyngor Sir Ceredigion |
| Peirianyddion Mecanyddol a Thrydanol | Hore Lea, Caerdydd / Atkins Global, Caerdydd |
| Peirianyddion Strwythurol | Allan Smith – Capita Symonds |
| Clerc y Gwaith | Cyngor Sir Ceredigion |
| Goruchwyliwr Cynllunio | Cyngor Sir Ceredigion |
| Contractwr | Willmott Dixon Construction, Caerdydd / CMB Engineering, Caerdydd |

- Francois Samuel - Pennaeth yr Uned Adeiladu, Adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Llywodraeth Cynulliad Cymru - yn cyflwyno Gwobr Cynaliadwyedd CLAW 2010 i'r Cynghorydd Keith Evans, Cyngor Sir Ceredigion. Hefyd yn y llun mae'r Cynghorydd Goronwy Edwards, Cadeirydd CLAW a Keith Morgan, Cadeirydd y Bwrdd Swyddogion a Enwebwyd.





