Eitemau Newyddion 2010

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol CLAW 2010

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy oedd yn croesawu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol CLAW 2010 eleni.  Cafodd y cyfarfod ei gynnal yng  Ngwesty'r Imperial, Llandudno ar 11 a 12 Tachwedd.  Francois Samuel, Pennaeth yr Uned Adeiladu, Adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Llywodraeth Cynulliad Cymru oedd y siaradwr gwadd yn y Cinio Blynyddol.  Roedd yn falch i weld bod Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn cyflawni safonau uchel iawn wrth ddylunio prosiectau newydd a'u bod yn ystyried cynaliadwyedd yn ystod camau cyntaf y gwaith dylunio.  Nododd bod yna ddull holistaidd yn cael ei ddefnyddio wrth ymdrin â'r gwaith dylunio gyda chynaliadwyedd yn cael ei ystyried yn ystod y camau cysyniadol cynnar.  Roedd hefyd yn falch bod bron i bob ysgol newydd yng Nghymru yn cyflawni Safon Rhagoriaeth BREEAM.

Cyflwynodd Francois Samuel Gwobr Adeilad y Flwyddyn CLAW 2010 i Gyngor Caerdydd am brosiect Llyfrgell Ganolog Newydd Caerdydd a Gwobr Cynaliadwyedd CLAW 2010 i Gyngor Sir Ceredigion am Swyddfeydd Canolfan Rheidiol a Chanolfan Ynni Carbon Niwtral, Aberystwyth.

Francois Samuel - Pennaeth yr Uned Adeiladu, Adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Llywodraeth Cynulliad Cymru - yn cyflwyno Gwobr Adeilad y Flwyddyn CLAW 2010 i David Young, Cyngor Caerdydd. Hefyd yn y llun mae'r Cynghorydd Goronwy Edwards, Cadeirydd CLAW a Keith Morgan, Cadeirydd y Bwrdd Swyddogion a Enwebwyd

Diwrnod Astudio SCALA/SCEME/CLAW, 10-11 Mehefin 2010

Mynychodd aelodau CLAW Diwrnod Astudio ar y Cyd rhwng SCALA/SCEME/CLAW ar 10 ac 11 Mehefin 2010.  Thema'r diwrnod oedd "A ydyn ni'n barod ar gyfer her y degawd newydd”.

Ar 10 Mehefin aeth y mynychwyr i ymweld â Chanolfan Hyddgen Cyngor Sir Powys, ym Machynlleth, canolfan hyfforddiant ac addysg ôl-16.  Cafodd yr adeilad newydd £1.2miliwn ei agor yn swyddogol ym mis Mawrth 2009 a derbyniodd gwobr safon Rhagoriaeth BREEAM.  Dyma'r adeilad sector cyhoeddus cyntaf yn y DG i gael ei ardystio gan y Passivhaus Institute.  Mae egwyddorion Passivhaus - lefelau uchel o insiwleiddio, defnydd o ynni solar a systemau adfer gwres effeithiol i sicrhau defnydd ynni isel - yn cael eu defnyddio'n ehangach ar gyfandir Ewrop.  Ariannwyd y prosiect yn rhannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru trwy eu Hadran APADGOS (Addysg) i arddangos ac ymchwilio i ddulliau newydd o gyflwyno dysgu gydol oes mewn lleoliad gwledig. 

Ar ôl hynny, aeth y mynychwyr i ymweld â Chanolfan Dechnoleg Amgen, Machynlleth i fynychu diwedd yr agoriad swyddogol o ganolfan Sefydliad Cymru ar gyfer Addysg Gynaliadwy, gan gynnwys cyflwyniad gan y pensaer ac ymweliad â'r safle.  Y Ganolfan Amgen yw un o ganlfannau eco mwyaf blaenllaw y byd, gyda dros 30 mlynedd o waith ymchwil a phrofiad o fyw'n gynaliadwy.   Mae WISE yn gyfuniad blaenllaw o dechnegau adeiladu cynaliadwy ac o ddylunio sy'n cadw'r amgylchedd mewn cof.  Adeiladwyd y ganolfan o ddeunyddiau isel eu defnydd o ynni megis cywarch a chalch, pridd cywasgedig a phren wedi'i ardystio gan FSC, mae'r adeilad yn cael ei bweru gan ffynnonellau ynni adnewyddadwy ar y safle, gan gynnwys pwer biomas a dwr. 

Ar ddydd Gwener 11 Mehefin cynhaliwyd  Diwrnod Astudio yng Nghanolfan Gynadledda WISE, Machynlleth.  I ddechrau'r diwrnod cafwyd gair o groeso a chyflwyniad gan Lywydd SCALA, Leslie Morrison gyda'r Brif Araith gan Jane Davidson A.C., Gweinidog yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Llywodaeth Cynulliad Cymru.  Aeth y bore yn ei flaen gyda chyfres o gyflwyniadau, gyda chinio i ddilyn, a gweithdai yn y prynhawn.  Roedd gan y mynychwyr dewis o wahanol bynciau a siaradwyr.  Mae copiau o'r cyflwyniadau amrywiol wedi'u gosod ar wefan CLAW.

Cyfarfod y Gwanwyn Aelodau CLAW 2010

Roedd Cyfarfod y Gwanwyn CLAW 2010 yn westai Cyngor Sir Caerfyrddin eleni.  Cafodd y cyfarfod ei gynnal ar 6 a 7 Mai yng Ngwesty'r Diplomat, Llanelli. 

Ar ddydd Iau 6 Mai aeth y mynychwyr i ymweld â thri phrosiect yn ardal Llanelli o Sir Gaerfyrddin a lle'r oedd adfywio yn flaenllaw o fewn y datblygiad.

Y lleoliad cyntaf oedd Stadiwm newydd Parc y Scarlets, Llanelli.  Cafwyd taith o amgylch y stadiwm a'r cyfleusterau wedi'i arwain gan   Rupert Moon, cyn mewnwr Cymru.  Agorwyd y Stadiwm ym mis Tachwedd 2008 fel cartref newydd y Scarlets a Chlwb Rygbi Llanelli.  Adeiladwyd y Stadiwm i gymryd lle Parc y Strade, cartref timoedd rygbi Llanelli am bron i 130 o flynyddoedd.  Mae cyfleusterau'r stadiwm newydd yn cynnwys cyfleusterau technoleg uchel ar gyfer cefnogwyr ar ddiwrnodau gemau ac er mwyn creu refeniw ar ddiwrnodau nad oes gemau'n cael eu cynnal.  Mae yna hefyd ysgubor hyfforddi a maes hyfforddi gyda thrac athletau.   Adeiladwyd y stadiwm gan Andrew Scott Limited sydd wedi'u lleoli ym Mhort Talbot, mae'r stadiwm ar safle sydd ym mherchnogaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin a drws nesaf i barc siopa newydd.  Dyluniwyd y stadiwm gan y penseiri The Miller Partnership sy'n arbenigwyr yn y maes adeiladu stadiwms chwaraeon.  Mae'r stondinau crom wedi'u dylunio er mwyn rhoi gwell golygfa.

Delegates at the CLAW Spring Meeing visiting Parc y Scarlets

Mae'r lluniau uchod yn dangos mynychwyr Cyfarfod y Gwanwyn CLAW yn ymweld â Pharc y Scarlets.

Yr ail leoliad yr ymwelwyd ag ef oedd Trac Rasio Pembrey, sy'n 1½ milltir o hyd y tu allan i bentref Pembrey.  Wedi'i leoli ar gyn maes awyr yr RAF, a oedd wedi cael ei ddefnyddio fel fferm ieir, mae'n cael ei alw'n gartref y byd moduro Cymreig, ac yn darparu man rasio ar gyfer ceir, beiciau modur, certi a loriau.  Mae yna ddwy adran wahanol ar y trac, un trac rasio sy'n darmac i gyd a thrac ralio sy'n defnyddio rhywfaint o'r trac yn ogystal ag wyneb rasio oddi ar y ffordd.  Mae'r trac yn cael ei redeg gan y 'British Automobile Racing Club' o dan amodau prydles 50 blynedd gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Y lleoliad olaf oedd Cae Ras Ffos Las, Trimsaran, a gafodd ei gwblhau yn 2009.  Roedd Ffos Las unwaith yn safle gwaith glo brig rhwng 1983 a 1997.  Ar un pryd, dyma'r gwaith glo brig mwyaf yn Ewrop ac roedd yn 500 troedfedd o ddyfnder.  Ffos Las oedd y cae ras tywarch cyntaf i agor yn y DG am 80 mlynedd, ac mae'n darparu'r cyfleusterau mwyaf modern ar gyfer ceffylau, hyfforddwyr, jocis a gwylwyr.  Crewyd y prosiect gan gwmni peiriannwyr sifil De Cymru 'The Walters Group', ac un o arweinwyr y prosiect oedd cadeirydd y cwmni a pherchennog ceffyl rasio Mr David Walters.  Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin Meryl Gravell OBE i aelodau CLAW, ei bod wedi cefnogi'r cae ras ers y cychwyn, a bod yr atyniad wedi rhoi bywyd newydd i'r ardal.  Mae Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd wedi sicrhau trefniant i gael 250 o dai wedi'u hadeiladu ar 18 erw o'r safle.

Ar 7 Mai derbyniodd Aelodau Etholedig cyflwyniadau ar Ysgolion yr 21ain Ganrif gan Gyfarwyddwr y Rhaglen Mr. Martin Lipson a Rheolwr y Rhaglen Mr. Jason Pritchard. Nodwyd bod y trefniant ysgolion presennol yng Nghymru yn anghynaliadwy yn amgylcheddol ac ariannol gyda lleoedd gwag yn agos at 20%.  Y nod oedd symud o fuddsoddiad ar raddfa fechan a oedd yn rhoi gwerth am arian gwael i ariannu tymor hir strategol a mwy effeithlon.  Rhoddwyd manylion Nodau'r Rhaglen, Amserlen, Trefniadau a gwybodaeth arall yn y cyfarfod.  Mae copiau o'r cyflwyniadau wedi'u gosod ar wefan CLAW [cliciwch yma]. Bydd CLAW hefyd yn gweithio gydag Ysgolion yr 21ain Ganrif i ymchwilio ac adrodd ar bynciau adeiladu amrywiol.

Cafwyd Lansiad Swyddogol o'r Canllaw Dylunio Carbon Isel gan BRE, Ymddiriedolaeth Carbon Cymru a CLAW yn ystod Cyfarfod y Gwanwyn Aelodau CLAW ar 7 Mai 2010.  Cafwyd cyflwyniad gan Nick Tune (BRE), David Moore (Ymddiriedolaeth Carbon Cymru) a Dave Mundow (Cyngor Caerdydd) ar y Canllaw Dylunio Carbon Isel newydd sy'n canolbwyntio ar adnewyddu a chynnal a chadw adeiladau presennol ac mae'n cydfynd yn dda gyda chanllawiau presennol ar gyfer adeiladau newydd.  Mae'r canllaw i'w gael trwy porth y grwp di-garbon ar http://www.sustainablebuildingportal.co.uk/ o dan yr adran dylunio gynaliadwy.