Cyngor Sir Ynys Môn
Ysgol y Graig – Ysgol Gynradd Newydd

Manylion y Prosiect
Cafodd yr ysgol gynradd ei hail-leoli o Stad Ddiwydiannol brysur i safle gwyrdd ar gyrion Llangefni, Ynys Mon. Mae'r ysgol o fewn pellter cerdded neu seiclo ar gyfer y mwyafrif o'r plant. Mae hyn yn ei dro wedi lleihau'n syfrdanol nifer y teithiau mewn car i'r ysgol ac o'r ysgol ar ddechrau a diwedd y dydd. Mae llwybr troed uniongyrchol sy'n cysylltu â stad dai gerllaw yn creu llwybr diogel i'r ysgol ar gyfer y plant.
Gwnaed penderfyniad gan y Dylunwyr yn gynnar y byddai'r ysgol yn ysgol 'werdd'. Mae'r ysgol yn ddatblygiad nodedig i Ynys Mon o ran ei gynllun a dull adeiladu. Oherwydd lleoliad yr ysgol ar safle gwyrdd, roedd hi'n hanfodol bod y cynllun yn cydweddu â'i hamgylchedd naturiol. Roedd y defnydd o ddeunyddiau naturiol yn flaenoriaeth yn ystod y broses adeiladu ac ar gyfer golwg allanol yr adeilad. Mae'r cynllun arloesol yn elwa o ffrâm bren draddodiadol gyda gwahanol fathau o orffeniadau allanol gan gynnwys cladin cedrwydden a chaergewyll cerrig. Cafodd y caergewyll eu llenwi â cherrig lleol.
Mae prif nodweddion cynaliadwy'r ysgol newydd fel a ganlyn :
To Gwyrdd
Mae canran mawr o'r to wedi'i orffen gyda system to sedum 'gwyrdd'. Mae'r to yn creu cynefin naturiol ar gyfer planhigion a phryfed ac ecoleg leol arall ac hefyd mae'n helpu bioamrywiaeth. Mae to sedum hefyd yn cyfrannu at reoli dwr storm trwy gadw dwr glaw.
Ffrâm Bren
Dewiswyd ffrâm bren am ei nodweddion cynaliadwy ac am ei fod yn ddeunydd carbon niwtral. Mae pren hefyd yn adnodd naturiol a gellir ei ailgylchu'n gyfan gwbl. Gwnaed y paneli ffrâm bren ar gyfer y cynllun hwn yn Llanandras, Canolbarth Cymru ac fe'i dosbarthwyd i'r safle i'w codi, a thrwy hynny lleihau gwastraff y safle. Codwyd y ffrâm bren ar gyfer yr ysgol newydd mewn deuddeg wythnos.
Paneli Solar
Mae'r to ar y drychiad sy'n wynebu'r de yn elwa o ardal eang o baneli solar ffotofoltaidd. Mae yna gyfanswm o 228 Kyocera KC130 o fodiwlau PV, sy'n gallu cynhyrchu 29,600W ar ei uchafbwynt. Disgwylir i'r system gynyrchu oddeutu 22,000 kWh (uned) y flwyddyn. Bydd hyn yn golygu arbediad carbon o tua 13.5 Tunnell o ostyngiad mewn CO2. Disgwylir y bydd y cyfuniad o'r paneli PV a'r tyrbin gwynt yn cynyrchu bron i 50% o ofynion trydanol yr ysgol bob blwyddyn. Bydd y trydan sy'n cael ei gynyrchu pan nad yw'r ysgol yn cael ei defnyddio, yn arbennig dros wyliau'r haf, yn cael ei werthu yn ol i'r Grid Cenedlaethol. Bydd yr ynni sy'n cael ei gynhyrchu yn cael ei fonitro ar-lein ac hyd at ddiwedd Mai, roedd cyfanswm o dros 8100kWh wedi cael ei gynhyrchu, sef arbediad CO2 o dros 4.3 tunnell ac arbediad cost ynni gwirioneddol o £1,138.
| Manylion y Cytundeb |
|
| Cleient |
Adran Addysg, Cyngor Sir Fon |
| Gwerth y Cytundeb |
£3.9M |
| Dyddiad Cwblhau Ymarferol |
Tachwedd 2008 |
| Rheolwr Prosiect / Dylunwyr Pensaerniol |
Gareth Thomas / Marcus Groves – Cyngor Sir Fon |
| Syrfewr Meintiau |
Maelgwyn Williams - Chandler KBS |
| Dylunydd Gwasanaethau Mecanyddol |
Ray Tooth - RJT Consulting |
| Dylunydd Gwasanaethau Trydanol |
Alwyn Evans – Cyngor Sir Fon |
| Peiriannydd Strwythurol |
Allan Smith – Capita Symonds |
| Clerc y Gwaith |
Mike Hyde – Gwasanaethau Rheoli'r Safle |
| Goruchwyliwr Cynllunio |
Gavin Williams – SP Projects |
| Contractwr |
Wynne Construction |