Adeilad y Flwyddyn 2007
Mae'r orsaf fysiau newydd hon yn rhan ganolog o becyn adfywio sydd werth miliynnau ac sy'n digwydd ar hyn o bryd yn y Coed Duon. Roedd y prosiect yn cyfuno gwaith peirianneg sifil a gwaith adeiladu ac roedd yn cynnwys dymchwel yr orsaf fysiau deulawr presennol ac adeiladu cyfnewidfa fysiau un llawr hollol newydd ar yr un safle.
Mae cynllun y Pensaer o'r adeilad yn gynnyrch gwaith ymchwil helaeth o arferion da yn y DG o brosiectau yn y sector cludiant a gwblhawyd yn ddiweddar. Y canlyniad yw adeilad modern trawiadol sy'n creu cysgodfan â waliau gwydrog a drysau awtomatig. Mae'r adeilad yn rhoi golygfan gwych i deithwyr yn ogystal ag adeilad sy'n hawdd i deithwyr a gyrrwyr symud i mewn ac allan ohono. Mae'r orsaf newydd yn creu amgylchedd mwy croesawgar a modern i deithwyr a phorth deniadol i'r Coed Duon.
Mae'r cyfleuster yn cynnwys 9 cysgodfan ac ystafell aros wedi'i gwresogi i deithwyr, caffi, ystafell orffwys i yrrwyr bysiau a thoiledau sy'n hwylus i bawb gyda rhywun ar ddyletswydd a chyfleusterau newid cewynnau.
| Manylion y Cytundeb | |
| Cleient | Mark Rees-Williams, Prif Beiriannydd, Adran Peiriannyddol |
| Gwerth y Cytundeb | £2.4 miliwn |
| Dyddiad y Safon Gorffenedig Ymarferol | Rhagfyr 2006 - Mehefin 2007 |
| Prif Gontractwr | Encon Civil Engineering, Caerdydd |
| Prif Bensaer | Geraint Jones, Ymgynghorydd Adeiladu, Adran Eiddo, Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Caerffili |
| Rheolwr Prosiect | Keiron Withey, Capita Symons, Cwmbrân |
| Syrfewr Meintiau | Adrian Vasey, Downies South Wales, Caerdydd |
| Peiriannydd Trydanol a Mecanyddol | Mike Clarke a Neil Charles. Holloway Partnership, Caerdydd |
| Peiriannydd Strwythurol | Esam Al Kelaby, Bradley Associates, Taff's Well, Caerdydd |
| Cynllun Tirlunio | Rebekah Browning, Adran Gynllunio, Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Caerffili |
| Goruchwyliwr Cynllunio | Capita Symons, Cwmbrân |
Peter A. Rees, Cadeirydd CLAW, yn cyflwyno Gwobr Adeilad y Flwyddyn i Gyngor Bwrdeistrefol Sirol Caerffili.






