Eitemau Newyddion 2007

Ymroddiad gan CLAW i helpu lleddfu achosion o newid yn yr hinsawdd

Mae CLAW wedi llofnodi datganiad gyda'r Ymddiriedolaeth Carbon sy'n cydnabod yr effaith y bydd newid yn yr hinsawdd yn ei gael ar Gymru ac ymrwymo'r consortiwm i fynd i'r afael ag achosion ac effeithiau newid yn yr hinsawdd.

 

Cadeirydd CLAW, y Cynghorydd Peter Rees a Mike Batt o'r Ymddiriedolaeth Carbon yn arwyddo Datganiad Newid yn yr Hinsawdd CLAW / Ymddiriedolaeth Carbon.

Cyfarfod yr Hydref a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol CLAW 2007

 

Cynhaliwyd Cyfarfod yr Hydref a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol CLAW 2007 yng Nghaerdydd trwy wahoddiad Cyngor Sir a Dinas Caerdydd ar 1 a 2 Tachwedd.  Cyfarfu aelodau yn y “Tube” am gyflwyniad diddorol gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Datblygu Economaidd, Tom Morgan, yn sôn am waith a wnaed ar y prosiect ailddatblygu Bae Caerdydd.  Roedd diddordeb gan yr aelodau glywed am effaith y buddsoddiad hwn ar gyfer adnewyddu  hen ardaloedd y dociau yng Nghaerdydd a Phenarth.  Roedd yr ymweliad yn cynnwys taith ar un o'r cychod teithiau o Mermaid Quay o amgylch y Bae i weld adeiladau adnabyddus a llawer o'r gwaith sydd wedi'i wneud, yn cynnwys yr argae, gatiau loc ynghyd a'r gwaith sy'n mynd yn ei flaen ar hyd glannau'r afon sy'n llifo i'r Bae. 

 

Aeth aelodau hefyd i ymweld â Chastell Caerdydd a gwelwyd rhannau o'r rhaglen adnewyddu helaeth sy'n mynd ymlaen mewn ystafelloedd amrywiol a'r tiroedd.

 

Uchafbwynt cyfarfod yr Hydref oedd y cinio lle cyhoeddwyd Gwobrau Blynyddol CLAW.  Aeth y Wobr am Adeilad y Flwyddyn 2007 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am Gyfnewidfa'r Coed Duon. Aeth y Wobr Cynaliadwyedd 2007 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Penybont-ar-Ogwr am Warchodfa Natur Genedlaethol Cynffig.

 

Mae'r llun uchod yn dangos cyflwyniad o'r Wobr Adeilad y Flwyddyn CLAW 2007 i'r Cynghorwyr David Poole a Gwyn Price o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

 

Yng Nghyfarfod yr Aelodau cyflwynodd Chris Brain o IPF y newyddion diweddaraf ar y gwaith o ddatblygu dangosyddion perfformiad cenedlaethol.  Pwysleisiwyd y pwysigrwydd o reoli eiddo ac asedau mewn dull effeithlon gan Helen James, Uned Data Llywodraeth Leol.  Rhoddwyd gwybodaeth ganddi ar y cynllun peilot a'r cynigion diweddar ar gyfer dangosyddion perfformiad cenedlaethol newydd Cymru o dan y set ddata Rheoli Asedau Craidd.

 

Yn y llun uchod mae'r Cynghorydd Sir a Dinas Caerdydd Judth Woodman gyda Chadeirydd CLAW y Cynghorydd Peter A. Rees, Nedd Port Talbot a Chadeirydd Swyddogion Enwebedig CLAW Mike Barton,Ynys Mon cyn cinio'r Hydref.

Cyfarfod Gwanwyn CLAW 2007

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy oedd yr awdurdod nawdd ar gyfer Cyfarfod Gwanwyn CLAW 2007 a gynhaliwyd ar 24 a 25 Mai yng Ngwesty'r Imperial, Llandudno.  Roedd aelodau etholedig sydd â chyfrifoldeb Portffolio dros Eiddo ac uwch swyddogion eiddo awdurdodau lleol Cymru yn bresennol ac fe'i tywyswyd o amgylch Ysgol Genedlaethol San Sior a Thramffordd y Gogarth sydd wedi'u hadfer.  

Ymhlith eitemau i'w trafod yn y cyfarfod roedd adolygiad o Ddogfen Cynulliad Cymru "Creu'r Cysylltiadau:  Cyflawni ar Draws Ffiniau".  Ystyriodd Aelodau y dull orau i CLAW helpu Cynghorau i gyflawni'r newidiadau sydd wedi'u cynnig yn y ddogfen.  Roedd CLAW wedi cynnal arolwg ym mhob Cyngor er mwyn rhannu gwybodaeth am fentrau cyfredol, dynodi lefel yr adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd mewn Cynghorau, a mesur y gefnogaeth i gydweithio ar lefel Cymru gyfan, fel yr awgrymwyd yn nogfen y Cynulliad.

CLAW yn cefnogi Cynhadledd ACES Gwanwyn 2007

 

Cefnogodd CLAW Cangen Cymru o ACES (Cymdeithas Prif Syrfewyr Stadau a Rheolwyr Eiddo mewn Llywodraeth Leol) yn y gwaith o  groesawu Cynhadledd ACES ar 10-11 Mai 2007.  Cyflwynodd ACES plac wal i Peter A. Rees, Cadeirydd CLAW i gydnabod y cymorth a roddwyd.

Yn y llun uchod gwelir Cadeirydd CLAW, y Cynghorydd Peter A. Rees, Cyngor Bwrdeistref Nedd-Port Talbot gyda gyrrwr y tram cyn iddo gychwyn ar ei daith i fyny'r Gogarth.

Seremoni dadorchuddio plac Adeilad y Flwyddyn 2006

Dadorchuddiodd Tamsin Dunwoody AC, Dirprwy Weinidog dros Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad a Datblygu Economaidd a Chludiant y plac yn Swyddfeydd Porth Tredomen, enillydd  Adeilad y Flwyddyn CLAW 2006.