Adeilad y Flwyddyn 2004(1)

Enillydd ar y Cyd

Cyngor Dinas Casnewydd  :  Pafiliwn Criced Caerllion

 

Adeiladwyd y pafiliwn criced newydd yn lle'r hen un yn Broadway yng Nghaerllion.  Mae'r Amffitheatr Rufeinig ond rhyw 75m i ffwrdd ar ochr arall y Broadway ac mae'n denu llawer o ymwelwyr i'r ardal.
Mae'r adeilad newydd yn cynnwys cyfleusterau criced a rygbi, ardal arddangos y gellir ei defnyddio fel creche a thoiledau cyhoeddus i ymwelwyr i'r ardal hanesyddol.  Er bod cynllun yr adeilad yn ymarferol a chadarn mae hefyd yn sensitif i'w amgylchedd.

 

Mae'r cynllun yn seiliedig ar bafiliwn criced traddodiadol gan y credir bod y math hwn o adeilad eiconig yn eistedd yn gyfforddus mewn lleoliad gwledig/meysydd chwarae agored.  Er hynny, nod y cynllun oedd creu 'adeilad o'i amser' a'r canlyniad yw cyfuniad o waith pensaerniaeth traddodiadol a modern.
Mae'r adeilad wedi'i ganolbwyntio o amgylch y meysydd chwarae criced a rygbi ac felly mae'n arddangos dau wyneb.  Adeiladwyd wal ffin o garreg pennant 3m o uchder ar hyd Broadway gyda'r adeilad newydd wedi'i adeiladu yn ei erbyn.

To top

Gwerth y Cytundeb £680,202.84
Dyddiad y Safon Gorffenedig Ymarferol 9 Mehefin 2003
Cleient Dysgu Parhaus a Hamdden, Cyngor Dinas Casnewydd
Pensaer Davies Sutton Architecture
Syrfewr Meintiau Davis, Langdon & Everest
Peiranwyr Mecanyddol McCAnn & Partners
Peiranwyr Trydanol McCAnn & Partners
Peiranwyr Strwythurol Veryards Ltd
Goruchwyliwr Cynllunio Davis, Langdon & Everest

To top