Heddiw mae boeleri coed yr un mor effeithlon â systemau tanwydd ffosil confensiynol, maent yn ddibynadwy iawn ac yn hollol awtomatig. Mae pren bron yn gwbl C02 niwtral, yn annhebyg i danwydd ffosil, ac mae'n fwyfwy effeithiol o ran cost.
Mae'r systemau tanwydd pren modern yn cynhyrchu nesaf i ddim o ran mwg a gronynnau eraill ac mae'n gadael ar ôl 1% o'r cyfaint gwreiddiol o bren fel lludw. Gwnaed y boeler Binder 550Kw yn Awstria ac mae wedi'i osod mewn adeilad bychan sydd wedi'i gynllunio'n dda. Dewiswyd y boeler am ei effeithlonrwydd a nodweddion llosgi glân.
Gall y boeler defnyddio un ai peledi pren neu naddion pren ac mae'r rhain wedi'u gosod mewn storfa tanwydd sydd wedi'i gynllunio'n arbennig. Ar hyn o bryd, mae'r boeler yn defnyddio naddion pren o ffynhonnell leol. Mae'r naddion pren yn cael eu cludo o'r storfa i'r boeler gan daradr 300 mm o led. Mae'r storfa tanwydd 120m3 yn cael ei lenwi tua unwaith yr wythnos yn y gaeaf a thua bob dwy i dair wythnos yn yr haf.
Mae systemau gwresogi pren yn addas iawn i adeiladau lle mae angen gwres barhaus neu ddwr poeth, megis cartrefi gofal, canolfannau hamdden, pyllau nofio ac ati. Fodd bynnag, mae hyblygrwydd y systemau llosgi pren diweddaraf yn golygu eu bod yn addas i'w defnyddio mewn swyddfeydd ac unedau cynhyrchu. Mae gan Geredigion cyflenwad ddigonol o goed sydd wedi'u tyfu'n gynaladwy.
Felly gellir sicrhau cyflenwad tanwydd lleol, gan greu swyddi ac ychwanegu gwerth pellach i economi'r Rhanbarth .
Rhoddwyd nawdd grant sylweddol i'r prosiect hwn gan y Cynllun Busnes Ynni Coed (WEBS) a'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni trwy'r Rhaglen Ynni Cymunedol.
| Manylion y Cytundeb |
|
| Cleient |
Cyngor Sir Ceredigion |
| Rheoli a Dylunio |
Adran Priffyrdd, Eiddo a Gwaith, |
| Prif Gontractwr |
Flare (Wales) Ltd |
| Pris y Prosiect |
£675,000.00 |
| Dyddiad cwblhau'r prosiect |
Tachwedd 2005 |