yw Consortiwm Awdurdodau
Lleol Cymru
sy'n cefnogi buddiannau proffesiynol a thechnegol
rheoli eiddo
o fewn llywodraeth leol yng Nghymru.
Ffurfiwyd CLAW yn 1962, a bellach mae'n
gweithio gyda chynrychiolwyr o blith aelodau
etholedig a swyddogion holl awdurdodau lleol Cymru,
ynghyd â nifer o sefydliadau sy'n aelodau
cysylltiol er mwyn hybu rhagoriaeth wrth reoli asedau
eiddo.
Neges gan y Cadeirydd
Croeso i wefan CLAW sy'n rhoi gwybodaeth i helpu
Aelodau a Swyddogion wrth reoli portffolios eiddo
awdurdodau lleol yn effeithiol.
Mae croeso i ymwelwyr weld yr holl dudalennau ac i
wneud cysylltiadau os oes angen trwy'r dolenni
priodol.
Cynghorydd Goronwy O. Edwards (Cyngor
Bwrdeistref Sirol Conwy
)
Cadeirydd CLAW
I weld proffil y Cynghorydd Goronwy O.Edwards
cliciwch yma.
Mae gan CLAW drefniadau partner â nifer o
sefydliadau, gan gynnwys: Centre for Research in the Built
Environment (CRiBE), o fewn Ysgol
Bensaerniaeth Cymru Prifysgol Caerdydd.
Mae'r ganolfan hon yn cael ei chydnabod yn genedlaethol
ac yn rhyngwladol am wasanaethau ymchwil ac ymgynghori
ym maes dylunio amgylcheddol a defnydd adeiladau a'r
amgylchedd adeiledig o egni.
Mae'r Carbon Trust, Cymru yn gwmni annibynnol a
noddir gan y Llywodraeth. Ei rôl yw helpu'r DG
symud i economi carbon isel trwy helpu busnesau a'r
sector cyhoeddus leihau'r carbon sy'n cael ei ryddhau
nawr, a mynd i'r afael â chyfleoedd masnachol
technolegau carbon isel.